24. ei lwynau yn llawn braster,a mêr ei esgyrn yn iraidd.
25. Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd,heb brofi daioni.
26. Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd,a'r pryfed yn amdo drostynt.
27. “Yn awr gwn eich meddyliau,a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;
28. oherwydd dywedwch, ‘Ble'r aeth tŷ'r pendefig?a phle mae trigfannau'r annuwiol?’
29. Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd?Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,
30. yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr,ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?
31. Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb?Pwy a dâl yn ôl iddo am yr hyn a wnaeth?
32. Pan ddygir ef i'r bedd,cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.
33. Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno;bydd gorymdaith yn dilyn ar ei ôl,a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen.
34. Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi?Nid oes ond twyll yn eich atebion.”