3. “Gosod dy hun yn feichiau drosof;pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?
4. Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall,ni fydd i ti eu dyrchafu.
5. Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion,bydd llygaid ei blant yn pylu.
6. “Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl;yr wyf yn un y maent yn poeri arno.
7. Pylodd fy llygaid o achos gofid;aeth fy nghorff i gyd fel cysgod.
8. Synna'r cyfiawn at y fath beth,a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.
9. Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd,a bydd y glân ei ddwylo yn ychwanegu nerth.
10. Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig,eto ni chawn neb doeth yn eich plith.
11. “Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcaniona dyhead fy nghalon.
12. Gwnânt y nos yn ddydd—dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch.
13. Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref;cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch;
14. dywedaf wrth y pwll, ‘Ti yw fy nhad’,ac wrth lyngyr, ‘Fy mam a'm chwaer’.
15. Ble, felly, y mae fy ngobaith?A phwy a wêl obaith imi?
16. Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol?Onid awn i gyd i'r llwch?”