8. Saeth yn lladd yw eu tafod; y mae'n llefaru'n dwyllodrus.Y mae'n traethu heddwch wrth ei gymydog, ond yn ei galon yn gosod cynllwyn iddo.
9. Onid ymwelaf â hwy am y pethau hyn?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?
10. Codaf wylofain a chwynfan am y mynyddoedd, a galarnad am lanerchau'r anialwch;canys y maent wedi eu dinistrio fel nad â neb heibio, ac ni chlywant fref y gwartheg;y mae adar y nef a'r anifeiliaid hefyd wedi ffoi ymaith.
11. Gwnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan bleiddiaid;a gwnaf ddinasoedd Jwda yn ddiffeithwch heb breswylydd.”
12. Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall hyn? Wrth bwy y traethodd genau yr ARGLWYDD, er mwyn iddo fynegi? Pam y dinistriwyd y tir, a'i ddifa fel anialwch heb neb yn ei dramwyo?
13. Dywedodd yr ARGLWYDD, “Am iddynt wrthod fy nghyfraith a roddais o'u blaen hwy, heb ei dilyn a heb wrando ar fy llais,
14. ond rhodio yn ôl ystyfnigrwydd eu calon, a dilyn Baalim, fel y dysgodd eu hynafiaid iddynt,
15. am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Wele, bwydaf y bobl hyn â wermod, a'u diodi â dŵr gwenwynig.
16. Gwasgaraf hwy ymysg cenhedloedd nad ydynt hwy na'u hynafiaid wedi eu hadnabod, ac anfonaf gleddyf ar eu hôl nes gorffen eu difetha.”
17. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Ystyriwch! Galwch ar y galar-wragedd i ddod;anfonwch am y gwragedd medrus, iddynt hwythau ddod.
18. Bydded iddynt frysio, a chodi cwynfan amdanom,er mwyn i'n llygaid ollwng dagrau,a'n hamrannau ddiferu dŵr.
19. Canys clywyd sŵn cwynfan o Seion,‘Pa fodd yr aethom yn anrhaith,a'n gwaradwyddo yn llwyr?Gadawsom ein gwlad, bwriwyd i lawr ein trigfannau.’ ”
20. Clywch, wragedd, air yr ARGLWYDD,a derbynied eich clust air ei enau ef.Dysgwch gwynfan i'ch merched,a galargan bawb i'w gilydd.