1. “Os bydd gŵr yn ysgaru ei wraig, a hithau'n ei adaelac yn mynd yn eiddo i arall, a ddychwel ef ati?Oni halogid y tir yn ddirfawr trwy hyn?Yr wyt wedi puteinio gyda chariadon lawer,ond a fyddi'n dychwelyd ataf?” medd yr ARGLWYDD.
2. “Cod dy olwg i'r moelydd,ac edrych am fan na phuteiniaist ynddo;disgwyliaist amdanynt ger y ffyrdd, fel Arab yn yr anialwch;halogaist y tir â'th buteindra, ac â'th ddrygioni.
3. Ataliwyd y glawogydd, ac ni ddaeth y cawodydd diweddar;ond talcen putain oedd gennyt, a gwrthodaist gywilyddio.
4. Ac onid wyt yn awr yn galw arnaf,‘Fy nhad, cyfaill fy ieuenctid wyt ti—
5. a fydd ef yn ddig hyd byth?a geidw ef lid bob amser?’Fel hyn y lleferaist,ond gwnaethost ddrygioni hyd y gellaist.”
6. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf yn nyddiau'r Brenin Joseia, “A welaist ti'r hyn a wnaeth Israel anffyddlon? Bu'n rhodianna ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, a phuteinio yno.
7. Dywedais, ‘Wedi iddi wneud hyn i gyd, fe ddychwel ataf.’ Ond ni ddychwelodd, a gwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda hynny.
8. Gwelodd mai'n unig oherwydd i Israel anffyddlon odinebu y gollyngais hi, a rhoi iddi ei llythyr ysgar; er hynny nid ofnodd Jwda, ei chwaer dwyllodrus, ond aeth hithau hefyd a phuteinio.
9. Halogodd y tir trwy buteinio mor rhwydd, gan odinebu gyda maen a chyda phren.
10. Ac er hyn oll ni ddychwelodd ei chwaer dwyllodrus Jwda ataf fi â'i holl galon, ond mewn rhagrith,” medd yr ARGLWYDD.