3. Yr oedd Israel yn gysegredig i'r ARGLWYDD,ac yn flaenffrwyth ei gnwd.Euog oedd pwy bynnag a'i bwytaodd;daeth dinistr arno,’ ” medd yr ARGLWYDD.
4. Clywch air yr ARGLWYDD, O dŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.
5. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf,i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?
6. Ni ddywedasant, ‘Ple mae'r ARGLWYDD a'n dygodd i fyny o'r Aifft,a'n harwain yn y diffeithwch,mewn tir anial, llawn o dyllau,tir sychder a thywyllwch dudew,tir nas troediwyd erioed, ac na thrigodd neb ynddo?’
7. Dygais chwi i wlad gnydfawr,i fwyta ei ffrwyth a'i daioni;ond daethoch i mewn a halogi fy nhir,a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra.
8. Ni ddywedodd yr offeiriaid, ‘Ple mae'r ARGLWYDD?’Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod,a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn;proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau dilesâd.”
9. “ ‘Am hyn, fe'ch cyhuddaf drachefn,’ medd yr ARGLWYDD,‘gan gyhuddo hefyd blant eich plant.
10. Tramwywch drwy ynysoedd Chittim ac edrychwch;anfonwch i Cedar, ystyriwch a gwelwch a fu'r fath beth.
11. A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau,a hwythau heb fod yn dduwiau?Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd.