1. Yna galwodd Jacob ar ei feibion, ac meddai, “Dewch ynghyd, imi ddweud wrthych beth fydd eich hynt yn y dyddiau sydd i ddod.
2. “Dewch yma a gwrandewch, feibion Jacob,gwrandewch ar Israel eich tad.
3. “Reuben, ti yw fy nghyntafanedig,fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth,yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu,
4. yn aflonydd fel dŵr; ni ragori mwyach,oherwydd dringaist i wely dy dad,dringaist i'm gorweddfa a'i halogi.
5. “Y mae Simeon a Lefi yn frodyr;arfau creulon yw eu ceibiau.
6. Na fydded imi fynd i'w cyngor,na pherthyn i'w cwmni;oherwydd yn eu llid lladdasant wŷr,a thorri llinynnau gar yr ychen fel y mynnent.
7. Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw,a'u dicter am ei fod mor greulon;rhannaf hwy yn Jacoba'u gwasgaru yn Israel.
8. “Jwda, fe'th ganmolir gan dy frodyr;bydd dy law ar war dy elynion,a meibion dy dad yn ymgrymu iti.
9. Jwda, cenau llew ydwyt,yn codi oddi ar yr ysglyfaeth, fy mab;yn plygu a chrymu fel llew,ac fel llewes; pwy a'i cyfyd?
10. Ni fydd y deyrnwialen yn ymadael â Jwda,na ffon y deddfwr oddi rhwng ei draed,hyd oni ddaw i Seilo;iddo ef y bydd ufudd-dod y bobloedd.
11. Bydd yn rhwymo'i ebol wrth y winwydden,a'r llwdn asyn wrth y winwydden bêr;bydd yn golchi ei wisg mewn gwin,a'i ddillad yng ngwaed grawnwin.
12. Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin,a'i ddannedd yn wynnach na llaeth.