1. Aeth Dina, y ferch yr oedd Lea wedi ei geni i Jacob, allan i ymweld â gwragedd y wlad.
2. Pan welwyd hi gan Sichem fab Hamor yr Hefiad, tywysog y wlad, fe'i cymerodd a gorwedd gyda hi a'i threisio.
3. Rhoddodd ei holl serch ar Dina merch Jacob; hoffodd y ferch, a siaradodd yn gariadus wrthi.
4. Yna dywedodd Sichem wrth ei dad Hamor, “Cymer y ferch hon yn wraig i mi.”
5. Pan glywodd Jacob iddo halogi ei ferch Dina, yr oedd ei feibion gyda'i anifeiliaid yn y maes; ac felly ni ddywedodd ddim cyn iddynt ddod adref.
6. Yna daeth Hamor tad Sichem allan i siarad â Jacob.
7. Wedi i feibion Jacob gyrraedd o'r maes a chlywed am y peth, cynhyrfodd y gwŷr a ffromi'n fawr am i Sichem wneud tro ysgeler yn Israel trwy orwedd gyda merch Jacob, gan na ddylid gwneud felly.
8. Ond erfyniodd Hamor arnynt, a dweud, “Y mae fy mab Sichem wedi rhoi ei fryd ar gael y ferch; rhowch hi'n wraig iddo.
9. Trefnwch briodasau â ni; rhowch eich merched i ni, a chymerwch chwithau ein merched ninnau.
10. Dewch i gyd-fyw â ni, a bydd y wlad yn rhydd ichwi; dewch i fyw ynddi, a marchnata a cheisio meddiant ynddi.”
11. Dywedodd Sichem hefyd wrth ei thad a'i brodyr, “Os caf ffafr yn eich golwg, yna rhof ichwi beth bynnag a ofynnwch gennyf.
12. Cynyddwch yn sylweddol y gwaddol a'r rhodd, ac fe rof yn ôl eich gofyn, dim ond ichwi roi'r ferch yn wraig i mi.”
13. Am i'w chwaer Dina gael ei halogi, rhoddodd meibion Jacob ateb dichellgar i Sichem a'i dad Hamor.