15. Dywedodd Duw wrth Abraham, “Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw.
16. Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni.”
17. Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, “A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?”
18. A dywedodd Abraham wrth Dduw, “O na byddai Ismael fyw ger dy fron!”
19. Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl.
20. Ynglŷn ag Ismael: yr wyf wedi gwrando arnat, a bendithiaf yntau a'i wneud yn ffrwythlon a'i amlhau'n ddirfawr; bydd yn dad i ddeuddeg tywysog, a gwnaf ef yn genedl fawr.
21. Ond byddaf yn sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab y bydd Sara yn ei eni iti erbyn yr amser yma'r flwyddyn nesaf.”
22. Wedi iddo orffen llefaru, aeth Duw oddi wrth Abraham.