10. Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw.
11. Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
12. Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela.
13. Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
14. Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber.
15. Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
16. Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg.
17. Wedi geni Peleg, bu Heber fyw am bedwar cant tri deg o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
18. Bu Peleg fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Reu.
19. Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
20. Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug.
21. Wedi geni Serug, bu Reu fyw am ddau gant a saith o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
22. Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor.
23. Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
24. Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera.
25. Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
26. Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.