18. Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,
19. a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon;
20. ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrâm
21. a deugain troed arian, dau dan bob ffrâm;
22. yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwna chwe ffrâm,
23. a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,
24. wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod â bach; bydd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.
25. Felly bydd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.
26. “Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,
27. pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.
28. Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.
29. Yr wyt i oreuro'r fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt; yr wyt hefyd i oreuro'r barrau.
30. Yr wyt i adeiladu'r tabernacl yn ôl y cynllun a ddangoswyd iti ar y mynydd.
31. “Gwna orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.
32. Gosod ef â bachau aur ar bedair colofn o goed acasia, wedi eu goreuro ac yn sefyll ar bedwar troed arian.
33. Rho'r gorchudd ar y bachau, a chludo arch y dystiolaeth oddi tano; bydd y gorchudd yn gwahanu rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiaf.
34. Rho'r drugareddfa ar arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiaf.
35. Gosod y bwrdd y tu allan i'r gorchudd, ar ochr ogleddol y tabernacl, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd, ar yr ochr ddeheuol.
36. “Ar gyfer drws y babell gwna len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio.
37. Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.