9. Dywedodd ef wrth ei bobl, “Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni.
10. Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno â'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad.”
11. Felly, gosodwyd meistri gwaith i oruchwylio'r bobl ac i'w llethu â beichiau trymion. Hwy fu'n adeiladu Pithom a Rameses, dinasoedd ar gyfer ystordai Pharo.
12. Ond po fwyaf y caent eu gorthrymu, mwyaf yn y byd yr oeddent yn amlhau ac yn cynyddu; a daeth yr Eifftiaid i'w hofni.
13. Am hynny, gorfodwyd i'r Israeliaid weithio dan ormes,
14. a gwnaeth yr Eifftiaid eu bywyd yn chwerw trwy eu gosod i lafurio'n galed â chlai a phriddfeini, a gwneud pob math o waith yn y meysydd. Yr oedd y cwbl yn cael ei wneud dan ormes.
15. Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid,
16. “Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw.”
17. Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw.
18. Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, “Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?”
19. Dywedasant hwythau wrth Pharo, “Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd.”
20. Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn.