1. Pan glywodd Mordecai am bopeth a ddigwyddodd, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a lludw, a mynd allan i ganol y ddinas a gweiddi'n groch a chwerw.
2. Daeth i ymyl porth y brenin, oherwydd ni châi neb oedd yn gwisgo sachliain fynd i mewn i'r porth.
3. Ym mhob talaith lle y cyrhaeddodd gair a gorchymyn y brenin, yr oedd galar mawr ymysg yr Iddewon, ac yr oeddent yn ymprydio, yn wylo ac yn llefain; a gorweddodd llawer ohonynt mewn sachliain a lludw.
4. Pan ddaeth morynion ac eunuchiaid y Frenhines Esther a dweud wrthi, yr oedd yn ofidus iawn. Anfonodd ddillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain oedd amdano, ond gwrthododd ef hwy.
5. Yna galwodd Esther ar Hathach, un o eunuchiaid y brenin a ddewiswyd i weini arni, a'i orchymyn i fynd at Mordecai, i gael gwybod beth oedd ystyr hyn a pham y digwyddodd.
6. Aeth Hathach allan at Mordecai i sgwâr y ddinas o flaen porth y brenin,
7. a dywedodd Mordecai wrtho am y cwbl a ddigwyddodd iddo, ac am y swm o arian yr addawodd Haman ei dalu i drysorfa'r brenin er mwyn difa'r Iddewon.
8. Rhoddodd iddo hefyd gopi o'r wŷs a gyhoeddwyd yn Susan, yn gorchymyn eu dinistrio, er mwyn iddo yntau ei dangos a'i hegluro i Esther, a dweud wrthi am fynd at y brenin i ymbil ag ef ac erfyn arno dros ei phobl.
9. Aeth Hathach a dweud wrth Esther yr hyn a ddywedodd Mordecai,
10. a rhoddodd hithau iddo'r neges hon i Mordecai,
11. “Y mae holl weision y brenin a phobl ei daleithiau yn gwybod nad oes ond un ddedfryd yn aros unrhyw ŵr neu wraig sy'n mynd i'r cyntedd mewnol at y brenin heb wahoddiad, sef marwolaeth; ni chaiff fyw oni bai i'r brenin estyn ei deyrnwialen aur iddo. Nid wyf fi wedi fy ngalw at y brenin ers deg diwrnod ar hugain bellach.”
12. Pan glywodd Mordecai neges Esther,
13. dywedodd wrthynt am ei hateb fel hyn, “Paid â meddwl y cei di yn unig o'r holl Iddewon dy arbed, am dy fod yn byw yn nhŷ'r brenin.