1. Digwyddodd y pethau a ganlyn yn amser Ahasferus, yr Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg a saith o daleithiau, o India i Ethiopia.
2. Yn ystod y cyfnod hwnnw, yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad, ac yntau'n teyrnasu ar ei orsedd yn Susan y brifddinas,
3. gwnaeth y Brenin Ahasferus wledd i'w holl dywysogion a'i weinidogion. Daeth byddin y Persiaid a'r Mediaid, y penaethiaid a thywysogion y taleithiau o'i flaen,
4. a threuliodd yntau amser maith, sef cant wyth deg o ddyddiau, yn dangos iddynt gyfoeth ei deyrnas odidog ac ysblander gogoneddus ei fawredd.
5. Pan ddaeth yr amser hwn i ben, gwnaeth y brenin wledd a barodd am saith diwrnod yn y cwrt yng ngardd ei dŷ i bawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, oedd yn byw yn Susan y brifddinas.
6. Yr oedd yno lenni gwyn a glas wedi eu rhwymo â llinynnau o sidan a phorffor wrth gadwynau arian ar golofnau marmor. Yr oedd yno welyau o aur ac arian ar lawr o risial, marmor, alabastr a glasfaen gwerthfawr.
7. Yr oedd cwpanau aur o wahanol fathau i yfed ohonynt, ac yr oedd digonedd o win trwy haelioni'r brenin.
8. Ynglŷn â'r yfed, nid oedd gorfodaeth ar neb, oherwydd gorchmynnodd y brenin i holl swyddogion ei balas wneud fel yr oedd pawb yn dymuno.