7. Yn y seithfed flwyddyn i'r Brenin Artaxerxes, dychwelodd i Jerwsalem gyda rhai o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid a'r cantorion a'r porthorion a gweision y deml;
8. a chyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis yn seithfed flwyddyn y brenin.
9. Yr oedd wedi cychwyn ar y daith o Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis; yr oedd Esra wedi cael ffafr gan ei Dduw,
10. oherwydd iddo ymroi i chwilio cyfraith yr ARGLWYDD a'i chadw, ac i ddysgu deddfau a chyfreithiau yn Israel.
11. Dyma gopi o'r llythyr a roes y Brenin Artaxerxes i Esra'r offeiriad a'r ysgrifennydd, un cyfarwydd â chynnwys gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ddeddfau i Israel:
12. “Artaxerxes brenin y brenhinoedd at Esra'r offeiriad, ysgrifennydd cyfraith Duw'r nefoedd, cyfarchion!
13. Yn awr dyma fy ngorchmynion i bwy bynnag yn fy nheyrnas o bobl Israel a'u hoffeiriaid a'u Lefiaid sy'n dymuno mynd gyda thi i Jerwsalem: caiff fynd.
14. Oherwydd fe'th anfonir gan y brenin a'i saith gynghorwr i wneud arolwg o Jwda a Jerwsalem ynglŷn â chyfraith dy Dduw, sydd dan dy ofal.
15. Dygi'r arian a'r aur a roddwyd yn wirfoddol gan y brenin a'i gynghorwyr i Dduw Israel, sydd â'i drigfan yn Jerwsalem,