1. Yr oracl am yr Aifft:Wele'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl buan,ac yn dod i'r Aifft;bydd eilunod yr Aifft yn crynu o'i flaen,a chalon yr Eifftiaid yn toddi o'u mewn.
2. “Gyrraf Eifftiwr yn erbyn Eifftiwr;ymladd brawd yn erbyn brawd,a chymydog yn erbyn cymydog,dinas yn erbyn dinas,a theyrnas yn erbyn teyrnas.
3. Palla ysbryd yr Eifftiaid o'u mewn,a drysaf eu cynlluniau;ânt i ymofyn â'u heilunod a'u swynwyr,â'u dewiniaid a'u dynion hysbys.
4. Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled,a theyrnasa brenin creulon arnynt,”medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
5. Sychir dyfroedd y Neil,bydd yr afon yn hesb a sych,
6. y ffosydd yn drewi,ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder,a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;
7. bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil,a bydd popeth a heuir gyda glan yr afonyn crino ac yn diflannu'n llwyr.
8. Bydd y pysgotwyr yn tristáu ac yn cwynfan,pob un sy'n taflu bach yn y Neil;bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.
9. Bydd gweithwyr llin mewn trallod,a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.
10. Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisela phob crefftwr yn torri ei galon.
11. O'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan,y doethion sy'n cynghori Pharo â chyngor hurt!Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, “Mab y doethion wyf fi,o hil yr hen frenhinoedd”?
12. Ble mae dy ddoethion?Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgubeth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglŷn â'r Aifft.
13. Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid,a thwyllwyd tywysogion Noff;aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.
14. Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn,a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna,fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.
15. Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb,na phen na chynffon, na changen na brwynen.