8. Dadlau o blaid y mud,a thros achos yr holl rai diobaith.
9. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.
10. Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11. Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,ac ni fydd pall ar ei henillion.
12. Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,a hynny ar hyd ei hoes.
13. Y mae'n ceisio gwlân a llin,ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.
14. Y mae, fel llongau masnachwr,yn dwyn ei hymborth o bell.
15. Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,yn darparu bwyd i'w thylwyth,ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.
16. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,ac yn plannu gwinllan â'i henillion.
17. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.
18. Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.
19. Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.