13. Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd,llew yn rhydd yn y strydoedd!”
14. Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,felly y mae'r diog yn ei wely.
15. Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.
16. Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hunna saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.
17. Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.
18. Fel rhywun gwallgof yn saethupentewynion â saethau marwol,
19. felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”
20. Heb goed fe ddiffydd tân,a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.
21. Fel glo i farwor, a choed i dân,felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.
22. Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.
23. Fel golchiad arian ar lestr pridd,felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus.
24. Y mae gelyn yn rhagrithio â'i eiriau,ac yn cynllunio twyll yn ei galon;
25. pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo,oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl;
26. er iddo guddio'i gasineb â rhagrith,datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa.
27. Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo,a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo.
28. Y mae tafod celwyddog yn casáu purdeb,a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.