6. Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael,ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus.
7. Cilia oddi wrth yr un ffôl,oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo.
8. Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd,ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.
9. Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd,ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.
10. Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun,ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.
11. Dinistrir tŷ'r drygionus,ond ffynna pabell yr uniawn.
12. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.
13. Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus,a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.
14. Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.
15. Y mae'r gwirion yn credu pob gair,ond y mae'r call yn ystyried pob cam.
16. Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg,ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.
17. Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,a chaseir yr un dichellgar.
18. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,ond gwybodaeth yw coron y rhai call.