11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.
12. Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
13. Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.
14. Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.
15. Y mae deall da yn ennill ffafr,ond garw yw ffordd y twyllwyr.
16. Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus,ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb.
17. Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr,ond cennad cywir yn dwyn lles.
18. Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth,ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd.
19. Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas,ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg.
20. Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb,ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.
21. Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid,ond daioni yw gwobr y cyfiawn.
22. Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant,ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.
23. Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion,ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.