Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 6:2-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau.

3. Gwrando, O Israel, a gofala eu cadw, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n cynyddu mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid.

4. Gwrando, O Israel: Y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD.

5. Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth.

6. Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon.

7. Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi.

8. Yr wyt i'w rhwymo yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.

9. Ysgrifenna hwy ar byst dy dŷ ac ar dy byrth.

10. Yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad y tyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iti, gwlad o ddinasoedd mawr a theg nad adeiladwyd mohonynt gennyt,

11. hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni,

12. gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.

13. Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu a thyngu dy lw yn ei enw.

14. Paid â dilyn duwiau eraill o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 6