1. Aeth Moses i fyny o rosydd Moab i Fynydd Nebo, i ben Pisga gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD iddo y wlad gyfan, sef Gilead cyn belled â Dan,
2. holl Nafftali a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda hyd fôr y gorllewin;
3. yna'r Negef a gwastadedd dyffryn Jericho, dinas y palmwydd, cyn belled â Soar.
4. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dyma'r wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, a dweud, ‘Rhoddaf hi i'th ddisgynyddion.’ Dangosais hi i ti, ond ni chei fynd trosodd yno.”
5. Ac yno yng ngwlad Moab y bu farw Moses gwas yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
6. Claddwyd ef mewn cwm yng ngwlad Moab, gyferbyn â Beth-peor, ac nid oes neb yn gwybod man ei fedd hyd y dydd hwn.
7. Yr oedd Moses yn gant ac ugain oed pan fu farw; nid oedd ei lygad wedi pylu, na'i ynni wedi pallu.
8. Wylodd yr Israeliaid am Moses yn rhosydd Moab am ddeg diwrnod ar hugain; yna daeth cyfnod yr wylo a'r galaru i ben.