1. Os bydd ymrafael rhwng dau, y maent i ddod â'r achos i lys barn, ac y mae'r barnwr i ddedfrydu, gan ddyfarnu o blaid y cyfiawn a chondemnio'r euog.
2. Ac os yw'r euog yn haeddu ei fflangellu, y mae'r barnwr i beri iddo orwedd a derbyn yn ei ŵydd y nifer o lachau sy'n briodol i'r trosedd.
3. Nid ydynt i'w guro â mwy na deugain llach rhag iddo, o'i fflangellu lawer mwy na hyn, fynd yn wrthrych dirmyg yn d'olwg.
4. Nid wyt i roi genfa am safn ych tra byddo'n dyrnu.
5. Os bydd brodyr yn byw gyda'i gilydd ac un ohonynt yn marw'n ddi-blant, nid yw'r weddw i briodi estron o'r tu allan; y mae ei brawd-yng-nghyfraith i fynd i mewn ati a'i chymryd hi'n wraig iddo, a chyflawni dyletswydd.
6. Bydd y mab cyntaf a enir iddi yn cymryd enw'r brawd a fu farw, rhag dileu ei enw o Israel.
7. Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, “Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith â mi.”
8. Yna y mae henuriaid ei dref i'w alw atynt a siarad ag ef; ac os yw'n para i ddweud, “Nid wyf yn dymuno ei phriodi”,
9. bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngŵydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, “Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tŷ ei frawd.”
10. A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.