9. Cofiwch yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam wrth ichwi ddod o'r Aifft.
10. Os byddi'n rhoi benthyg unrhyw beth i'th gymydog, paid â mynd i mewn i'w dŷ i gymryd ei wystl.
11. Saf y tu allan, a gad i'r sawl yr wyt yn rhoi benthyg iddo ddod â'i wystl allan atat.
12. Os yw'n dlawd, paid â chysgu yn y dilledyn a roddodd yn wystl;
13. gofala ei roi'n ôl iddo cyn machlud haul, er mwyn iddo gysgu yn ei fantell a'th fendithio. Cyfrifir hyn iti'n gyfiawnder gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.
14. Paid â gorthrymu gwas cyflog anghenus a thlawd, boed gydwladwr neu ddieithryn yn un o drefi dy wlad.
15. Rho ei gyflog iddo bob dydd cyn i'r haul fachlud, rhag iddo achwyn arnat wrth yr ARGLWYDD ac i ti dy gael yn euog o bechod, oherwydd y mae'n anghenus ac yn dibynnu arno.
16. Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth.
17. Nid wyt i wyro barn yn achos dieithryn nac amddifad, nac i gymryd dilledyn y weddw fel gwystl.
18. Cofia mai caethwas fuost yn yr Aifft, ac i'r ARGLWYDD dy Dduw dy waredu oddi yno; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti wneud hyn.
19. Pan fyddi wedi medi dy gynhaeaf ond wedi anghofio ysgub yn y maes, paid â throi'n ôl i'w chyrchu; gad hi yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, er mwyn i'r ARGLWYDD dy Dduw dy fendithio yn holl waith dy ddwylo.
20. Pan fyddi'n curo'r ffrwyth oddi ar dy olewydden, paid â lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw.
21. Pan fyddi'n casglu ffrwyth dy winllan, paid â lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw.