20. Onid e, aed tân allan o Abimelech a difa penaethiaid Sichem a Beth-milo; hefyd aed tân allan o benaethiaid Sichem a Beth-milo a difa Abimelech.”
21. Yna ciliodd Jotham, a ffoi i Beer ac aros yno, o gyrraedd ei frawd Abimelech.
22. Wedi i Abimelech deyrnasu am dair blynedd ar Israel,
23. anfonodd Duw ysbryd cynnen rhwng Abimelech a phenaethiaid Sichem, a throesant yn annheyrngar iddo.
24. Digwyddodd hyn er mwyn i'r trais a wnaed ar ddeng mab a thrigain Jerwbbaal, a'r tywallt gwaed, ddisgyn ar eu brawd Abimelech, a'u lladdodd, ac ar benaethiaid Sichem, a fu'n ei gynorthwyo i ladd ei frodyr.
25. Gosododd penaethiaid Sichem rai ar bennau'r mynyddoedd i wylio amdano; yr oeddent hwy'n ysbeilio pawb a ddôi heibio iddynt ar y ffyrdd, a dywedwyd am hyn wrth Abimelech.
26. Pan ddaeth Gaal fab Ebed a'i gymrodyr drosodd i Sichem, enillodd ymddiriedaeth penaethiaid Sichem.
27. Wedi iddynt fod allan yn y maes yn cynaeafu eu gwinllannoedd ac yn sathru'r grawnwin, cadwasant ŵyl o lawenydd a mynd i deml eu duw gan fwyta ac yfed, ac yna difenwi Abimelech.
28. Ac meddai Gaal fab Ebed, “Pwy yw Abimelech a phwy yw pobl Sichem, fel ein bod ni yn ei wasanaethu ef? Oni ddylai mab Jerwbbaal a'i oruchwyliwr Sebul wasanaethu gwŷr Hemor tad Sichem? Pam y dylem ni ei wasanaethu ef?
29. O na fyddai'r bobl yma dan fy awdurdod i! Mi symudwn i Abimelech. Dywedwn wrtho, ‘Cynydda dy fyddin a thyrd allan.’ ”