12. Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a'i fod wedi dyrchafu ei frenhiniaeth er mwyn ei bobl Israel.
13. Wedi iddo ddod o Hebron, cymerodd Dafydd ragor o ordderchwragedd ac o wragedd o Jerwsalem; a ganed rhagor o feibion ac o ferched iddo.
14. Dyma enwau'r rhai a aned iddo yn Jerwsalem: Samua, Sobab, Nathan, Solomon,
15. Ibhar, Elisua, Neffeg, Jaffia,
16. Elisama, Eliada ac Eliffelet.
17. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar Israel, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth i lawr i'r gaer.
18. Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,
19. ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a dweud, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe roddaf y Philistiaid yn dy law.”
20. Felly aeth Dafydd i Baal-perasim, a'u taro yno. Ac meddai Dafydd, “Torrodd yr ARGLWYDD drwy fy ngelynion o'm blaen fel toriad dyfroedd.” Dyna pam yr enwodd y lle hwnnw, Baal-perasim.
21. Yr oedd y Philistiaid wedi gadael eu delwau ar ôl yno, felly dygodd Dafydd a'i wŷr hwy i ffwrdd.
22. Ymosododd y Philistiaid unwaith eto, ac ymledu dros ddyffryn Reffaim.
23. Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a chael yr ateb, “Paid â mynd i fyny, dos ar gylch i'r tu cefn iddynt, a thyrd atynt gyferbyn â'r morwydd.