23. Yr oedd sŵn wylo mawr trwy'r holl wlad pan oedd y bobl yn croesi. Safodd y brenin wrth nant Cidron nes i'r bobl i gyd fynd drosodd i gyfeiriad yr anialwch.
24. Yr oedd Sadoc yno hefyd, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef yn cario arch cyfamod Duw. Wedi iddynt osod arch Duw i lawr, bu Abiathar yn offrymu nes i'r bobl i gyd ymadael â'r ddinas.
25. Yna dywedodd y brenin wrth Sadoc, “Dos ag arch Duw yn ôl i'r ddinas; os caf ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe ddaw â mi yn ôl, a gadael imi ei gweld hi a'i chartref.
26. Ond os dywed fel hyn, ‘Nid oes arnaf d'eisiau,’ dyma fi; caiff wneud fel y myn â mi.”
27. Hefyd dywedodd y brenin wrth Sadoc yr offeiriad, “Edrych, fe elli di ac Abiathar ddychwelyd yn ddiogel i'r ddinas, a'ch dau fab gyda chwi, Ahimaas dy fab di a Jonathan, mab Abiathar.
28. Edrychwch, fe oedaf wrth rydau'r anialwch hyd nes y caf air oddi wrthych i'm hysbysu.”
29. Felly dygodd Sadoc ac Abiathar arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.
30. Dringodd Dafydd lethr Mynydd yr Olewydd dan wylo a chuddio'i ben a cherdded yn droednoeth. Yr oedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd yn dringo gan guddio'u pennau ac wylo.