2 Brenhinoedd 20:5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
“Dos yn ôl, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; wele, yr wyf am dy iacháu. Ymhen tridiau byddi'n mynd i fyny i'r deml.