10. Yna dywedodd Dafydd, “O ARGLWYDD Dduw Israel, y mae dy was wedi clywed yn bendant fod Saul yn ceisio dod i Ceila i ddinistrio'r dref o'm hachos i.
11. A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi iddo? A ddaw Saul i lawr fel y clywodd dy was? O ARGLWYDD Dduw Israel, rho ateb i'th was.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Fe ddaw.”
12. Yna gofynnodd Dafydd, “A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm gwŷr yn llaw Saul?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Byddant.” Yna cododd Dafydd gyda'i wŷr, tua chwe chant ohonynt, ac aethant o Ceila a symud o le i le.
13. Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, peidiodd â chychwyn allan.
14. Tra oedd Dafydd yn byw mewn llochesau yn y diffeithwch ac yn aros yn y mynydd-dir yn niffeithwch Siff, yr oedd Saul yn chwilio amdano trwy'r adeg, ond ni roddodd Duw ef yn ei law.
15. Yr oedd Dafydd yn gweld mai dod allan i geisio'i fywyd yr oedd Saul; felly arhosodd Dafydd yn Hores yn niffeithwch Siff.
16. Aeth Jonathan fab Saul draw i Hores at Ddafydd a'i galonogi trwy Dduw
17. a dweud wrtho, “Paid ag ofni; ni ddaw fy nhad Saul o hyd iti; byddi di'n frenin ar Israel a minnau'n ail iti, ac y mae fy nhad Saul yn gwybod hynny'n iawn.”
18. Gwnaethant gyfamod ill dau gerbron yr ARGLWYDD; arhosodd Dafydd yn Hores, ac aeth Jonathan adref.