1. Dywedodd Saul wrth ei fab Jonathan a'i holl weision am ladd Dafydd.
2. Ond yr oedd Jonathan fab Saul wedi mynd yn hoff iawn o Ddafydd, a dywedodd wrtho, “Y mae fy nhad Saul yn ceisio dy ladd di; bydd di'n ofalus ohonot dy hun bore yfory, ac ymguddia ac aros o'r golwg.
3. Mi af finnau a sefyll yn ymyl fy nhad, allan yn ymyl y lle y byddi di, ac mi soniaf amdanat wrth fy nhad; ac os gwelaf unrhyw beth, mi ddywedaf wrthyt.”
4. Siaradodd Jonathan o blaid Dafydd wrth ei dad Saul, a dweud wrtho, “Peidied y brenin â gwneud cam â'i was Dafydd, oherwydd ni wnaeth ef gam â thi; yn wir, bu ei weithredoedd o les mawr iti.
5. Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad hwnnw, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel gyfan. Yr oeddit tithau'n gweld ac yn llawenychu; pam ynteu yr wyt am wneud cam ag un dieuog, a lladd Dafydd heb achos?”
6. Gwrandawodd Saul ar ble Jonathan a thyngodd: “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff ei ladd.”
7. Wedi i Jonathan alw Dafydd, a dweud hyn i gyd wrtho, aeth ag ef at Saul; a bu Dafydd yn ei wasanaethu fel cynt.
8. A phan dorrodd rhyfel allan eto, aeth Dafydd i ymladd yn erbyn y Philistiaid a gwneud difrod mawr arnynt, a hwythau'n ffoi o'i flaen.
9. Daeth ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD ar Saul ac yntau'n eistedd gartref â gwaywffon yn ei law, a Dafydd yn canu'r delyn.
10. Ceisiodd Saul drywanu'r waywffon trwy Ddafydd i'r pared, ond osgôdd Dafydd ef, ac i'r pared y trawodd y waywffon; felly dihangodd Dafydd a ffoi.
11. Y noson honno anfonodd Saul negeswyr i gartref Dafydd i'w wylio er mwyn ei ladd yn y bore. Ond yr oedd Michal gwraig Dafydd wedi dweud wrtho, “Os na fyddi'n dianc heno am d'einioes, yfory byddi'n farw.”
12. Felly, wedi i Michal ollwng Dafydd i lawr drwy'r ffenestr, aeth yntau ar ffo a dianc.
13. Yna cymerodd Michal y teraffim a'u gosod yn y gwely, a rhoi clustog o flew geifr lle byddai'r pen, a thaenu dilledyn drosti.