19. Tra oedd Saul yn siarad â'r offeiriad, cynyddodd yr anhrefn fwyfwy yng ngwersyll y Philistiaid, a dywedodd Saul wrth yr offeiriad, “Atal dy law.”
20. Galwodd Saul yr holl bobl oedd gydag ef, ac aethant i'r frwydr; yno yr oedd pob un â'i gleddyf yn erbyn ei gyfaill, mewn anhrefn llwyr.
21. A dyma'r Hebreaid oedd gynt ar ochr y Philistiaid, ac wedi dod i fyny i'r gwersyll gyda hwy, yn troi ac yn ochri gyda'r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.
22. A phan glywodd yr Israeliaid oedd yn llechu yn ucheldir Effraim fod y Philistiaid ar ffo, dyna hwythau hefyd yn ymuno i'w hymlid.
23. Y dydd hwnnw gwaredodd yr ARGLWYDD Israel, ac ymledodd y frwydr tu hwnt i Beth-afen.
24. Ond aeth yn gyfyng ar yr Israeliaid y diwrnod hwnnw, oherwydd i Saul dynghedu'r bobl a dweud, “Melltigedig fyddo'r un sy'n bwyta tamaid cyn yr hwyr! Yr wyf am ddial ar fy ngelynion.” Ac ni phrofodd yr un o'r bobl damaid.
25. Daethant oll i goedwig lle'r oedd mêl gwyllt;
26. a phan ddaethant yno a gweld llif o fêl, nid estynnodd neb ei law at ei geg, am fod y bobl yn ofni'r llw.
27. Nid oedd Jonathan wedi clywed ei dad yn gwneud i'r bobl gymryd y llw, ac estynnodd y ffon oedd yn ei law a tharo'i blaen yn y diliau mêl, ac yna'i chodi at ei geg; a gloywodd ei lygaid.
28. Yna dywedodd un o'r bobl wrtho, “Y mae dy dad wedi gosod llw caeth ar y bobl, ac wedi dweud, ‘Melltigedig yw pob un sy'n bwyta tamaid heddiw’. Ac yr oedd y bobl yn lluddedig.”