19. Bore trannoeth, wedi iddynt godi ac addoli'r ARGLWYDD, aethant yn ôl adref i Rama.
20. Cafodd Elcana gyfathrach â'i wraig Hanna a chofiodd yr ARGLWYDD hi. Beichiogodd Hanna, ac ymhen amser geni mab a'i alw'n Samuel, oherwydd: “Gan yr ARGLWYDD y gofynnais amdano.”
21. Aeth y gŵr Elcana a'i holl deulu i offrymu ei aberth blynyddol i'r ARGLWYDD, ac i dalu adduned.
22. Nid aeth Hanna, ond dywedodd wrth ei gŵr, “Cyn gynted ag y bydd y bachgen wedi ei ddiddyfnu, af ag ef i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD, a chaiff aros yno am byth.”
23. Dywedodd ei gŵr Elcana wrthi, “Gwna'r hyn sydd orau yn d'olwg; aros nes y byddi wedi ei ddiddyfnu, ond bydded i'r ARGLWYDD gyflawni d'addewid.” Felly arhosodd y wraig gartref a magu ei phlentyn nes ei ddiddyfnu.
24. Wedi iddi ei ddiddyfnu, aeth ag ef i fyny gyda hi a chymryd ych teirblwydd ac effa o flawd a chostrel o win. Daeth ag ef yn fachgen ifanc i dŷ'r ARGLWYDD yn Seilo.
25. Wedi iddynt ladd yr ych, daethant â'r llanc at Eli,
26. a dywedodd hi, “Henffych well, syr! Myfi yw'r wraig oedd yn sefyll yma yn d'ymyl yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.
27. Am y bachgen hwn yr oeddwn yn gweddïo, a rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r hyn a ofynnais ganddo.
28. Yr wyf finnau'n ei fenthyg i'r ARGLWYDD am ei oes. Un wedi ei fenthyg i'r ARGLWYDD yw.” Ymgrymasant yno o flaen yr ARGLWYDD.